Postiad gan Mark and Roland, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru
Mae sicrhau bod LLYW.CYMRU mor hygyrch â phosibl yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaeth gwych i bawb. Mae’n gyfraith hefyd.
Ond mae gwirio dros 46,000 o dudalennau’n rheolaidd yn dasg fawr, ac ni yn y Tîm Digidol Corfforaethol sy’n gyfrifol am oruchwylio hynny’n uniongyrchol ar ein prif wefan (www.gov.wales / www.llyw.cymru). Dyma’r math o dasg y mae angen meddalwedd arnom i’n helpu i’w gwneud, ac er nad yw profion awtomataidd yn berffaith, mae’n ffordd wych o gael sicrwydd da ein bod yn cydymffurfio â’r safonau. Mae hefyd yn rhoi mwy o amser inni weithio ar y pethau hynny sydd angen rhywfaint o sylw dynol.
Dewis offeryn
Mae llawer o gynhyrchion profi hygyrchedd. Fe wnaethom adolygu rhai o’r cynhyrchion hyn a phrofiadau sefydliadau eraill o’u defnyddio, gan gynnwys:
- profion awtomataidd gan dîm llawlyfr gwasanaeth GOV.UK
- archwiliad Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU o offer hygyrchedd
- rhestr o offer gwerthuso hygyrchedd y we gan Fenter Hygyrchedd y We
Fe wnaethom ddewis SortSite Professional gan ei fod yn cynnig gwerth da ac yn adrodd yn effeithiol, a hynny am gost resymol.
Sut rydym yn defnyddio SortSite
Mae swyddog dylunio rhyngweithiol yn cynnal sgan gan ddefnyddio fersiwn bwrdd gwaith o SortSite Professional. Gallai aelod arall o’r tîm Digidol, Data a Thechnoleg wneud hyn. Fodd bynnag, rydym yn teimlo bod rhoi’r gwaith i’r swyddog dylunio rhyngweithiol yn gweithio’n dda yn ein tîm, gan fod ganddo’r gymysgedd gywir o sgiliau i ddehongli’r adroddiadau.
Mae’r swyddog yn rhannu’r materion yn ddau gategori:
- materion datblygu, sef materion a allai fod angen datblygu rhywfaint ar y feddalwedd i’w trwsio
- materion cynnwys, sef materion y gall golygydd gyda mynediad at System Rheoli Cynnwys (CMS) eu trwsio
Mae’r swyddog dylunio rhyngweithiol yn cynnig gwaith i ddatrys y materion datblygu. Mae’n cofnodi’r gwaith hwn fel tasgau i’w hadolygu gan gydweithwyr sydd wedyn yn cael eu blaenoriaethu a’u neilltuo i sbrint datblygu. Ystyrir materion safonol o ran hygyrchedd a chodio yn flaenoriaeth uchel.
Caiff materion cynnwys eu trosglwyddo i ddylunydd cynnwys. Mae’r dylunydd cynnwys yn gweithio gyda’r cydweithiwr a gyhoeddodd y cynnwys yn wreiddiol i gytuno ar newidiadau i ddatrys y materion, a gwneud y newidiadau hynny. Mae hwn yn gyfle da i ddatblygu sgiliau ymhlith ein cymuned o gyhoeddwyr a nodi gweithgareddau eraill i osgoi materion tebyg yn y dyfodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn llunio canllawiau newydd neu’n cynnal gweithdai i esbonio sut i osgoi materion rydym wedi’u profi.
Unwaith y byddwn wedi gweithredu ar yr holl faterion mewn sgan, rydym yn diweddaru datganiad hygyrchedd LLYW.CYMRU.
Cyfyngiadau
Mae profion awtomataidd yn wych ar gyfer profi llawer o gynnwys yn gyflym i roi syniad da inni o sut rydym yn gwneud. Fodd bynnag, mae meddalwedd yn dilyn set o reolau’n ddall, ac nid yw’n ddefnyddiwr go iawn. Er enghraifft, mae’n dweud wrthym os yw testun amgen yn bresennol ond ni all ddweud wrthym a yw’r testun amgen yn dda ai peidio neu a ddylai fod yno o gwbl.
Nid yw SortSite yn profi ffeiliau ychwaith. Rydym yn ymdrechu i gyhoeddi’r rhan fwyaf o gynnwys ar ffurf tudalennau gwe ond mae gennym lawer o ffeiliau o hyd.
Er mwyn helpu i oresgyn y cyfyngiadau hyn, rydym hefyd yn cwblhau rhywfaint o brofion â llaw. Enghraifft o hyn yw’r profion ar ddarllenwyr sgrin. Mae’r profion hyn yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar yr agweddau y gellir eu hailddefnyddio ar y wefan yn hytrach na’r hyn a gyhoeddir gan olygyddion cynnwys.
Gwelliannau mesuradwy
Peth gwych am brofion awtomataidd yw eu bod yn rhoi data inni fel y gallwn olrhain sut rydym yn perfformio, ac adrodd ar hynny. Yn galonogol, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn y materion a adroddir amdanynt:
- ym mis Medi 2021, adroddwyd bod gan 6,938 o dudalennau faterion hygyrchedd
- ym mis Gorffennaf 2024, adroddwyd bod gan 363 o dudalennau faterion hygyrchedd
Ychydig iawn o faterion datblygu a welwn gan eu bod wedi’u datrys yn dilyn profion awtomataidd blaenorol neu eu nodi mewn profion â llaw cyn y caiff y newid ei gyhoeddi. Mae’r rhan fwyaf o faterion bellach yn tueddu i fod o ganlyniad i sut mae darn penodol o gynnwys wedi’i gyhoeddi, er enghraifft, tabl cymhleth gyda phenynnau wedi’u nythu. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cynnal profion yn rheolaidd gan fod cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu drwy’r amser. Mae’n hanfodol monitro ei ansawdd fel y gallwn nodi problemau ac ymyrryd yn gyflym.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, byddai’n wych clywed gennych, gadewch sylw isod neu anfonwch e-bost atom yn digidol@llyw.cymru.