Postiad gan Roland, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru
Tîm amlddisgyblaethol ydyn ni sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wireddu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau a ddisgrifir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Beth a olygir gan GOV.CYMRU fan hyn?
Nid un wefan neu wasanaeth yw GOV.CYMRU, mae’n ystod o gynhyrchion cysylltiedig a gafodd eu datblygu’n unol â set o safonau cyffredin:
- y safle craidd, sef ein prif safle yn www.llyw.cymru
- gwasanaethau, er enghraifft gwasanaeth sy’n eich galluogi i ddod o hyd i brentisiaeth
- pecynnau cymorth, er enghraifft, sy’n eich galluogi i wirio a ydych chi’n gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Gymru ai peidio
- microsafleoedd, er enghraifft Busnes Cymru
- ymgyrchoedd, er enghraifft helpwch ni i’ch helpu chi
- sefydliadau, er enghraifft Awdurdod Cyllid Cymru
Rydyn ni’n rheoli’r platfform ar gyfer y safle craidd yn www.llyw.cymru yn uniongyrchol, yn ogystal â rhai pecynnau cymorth, a’r rhan fwyaf o ymgyrchoedd a sefydliadau. Mae hynny’n golygu pethau fel lletya, adnoddau rheoli cynnwys, enwau parthau, a phensaernïaeth gwybodaeth. Rydym hefyd yn rheoli rhywfaint o gynnwys yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, mae LLYW.CYMRU yn fwy na’r safle craidd, ac nid ydym yn rheoli’r rhan fwyaf o wasanaethau neu ficrosafleoedd yn uniongyrchol. Rydym yn berchen ar y safonau LLYW.CYMRU, gan helpu cydweithwyr sy’n berchen ar wasanaethau a microsafleoedd i’w cymhwyso.
Beth yw’r rheswm dros ddefnyddio safonau cyffredin?
Mae safonau cyffredin yn golygu:
- y gellir cyflymu’r broses o ddatblygu cynhyrchion newydd gan eu bod yn dilyn patrymau sefydledig (nid oes angen ailadrodd gwaith tebyg ar ddiffinio patrymau ar gyfer pob cynnyrch)
- bod gan y timau cynnyrch fwy o amser i ganolbwyntio ar eu heriau unigryw (gan ddefnyddio’r amser a arbedir trwy ddilyn patrymau cyffredin)
- bod gan Lywodraeth Cymru hunaniaeth gyson ar-lein, sy’n gwella ymddiriedaeth ac yn sicrhau bod ei gwaith yn cael ei ddisgrifio’n glir
Cyfansoddiad y tîm
Rydym yn grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau Digidol, Data a Thechnoleg, gan gynnwys:
- swyddog dylunio rhyngweithiol
- dylunydd cynnwys
- blaen-ddatblygwr
- datblygwr meddalwedd
- rheolwr cyflawni
- rheolwr cynnyrch
Rydyn ni’n hyblyg ac yn gweithio ar feysydd y tu allan i’n prif rôl Fframwaith Gallu Proffesiwn Digidol a Data. Mae hyn yn tueddu i olygu gweithio ar feysydd sydd â chysylltiad agos, er enghraifft dylunydd cynnwys yn gweithio ar rannau o rôl arbenigwr hygyrchedd.
Ein blaenoriaethau
Mae amrywiaeth enfawr o waith a gwelliannau parhaus i’n cadw ni’n brysur:
- LLYW.CYMRU adolygiadau dylunio Iaith Profiad Cyflawn (GEL), gan sicrhau bod cynhyrchion newydd yn cadw at safonau
- ansawdd cynnwys a monitro hygyrchedd, gan sicrhau bod gwasanaethau’n hawdd eu defnyddio i gynifer o bobl â phosibl
- rheoli cymunedol, er enghraifft cefnogi dylunwyr cynnwys ar draws ystod ein cynhyrchion
- rheoli platfform, gan sicrhau bod y safleoedd a’r gwasanaethau yr ydym yn eu rheoli yn gweithio’n gyflym ac yn ddibynadwy
- dadansoddeg, sicrhau ansawdd y data a hyrwyddo defnydd effeithiol ohonynt
- rheoli ceisiadau am gynhyrchion newydd neu rai sydd wedi newid
Er mwyn cefnogi’r holl waith hwn, rydyn ni’n cynnal safonau a chanllawiau cynhwysfawr ar gyfer LLYW.CYMRU.
Mae blaenoriaethau tymor hirach yn cynnwys:
- llunio elfen GEL LLYW.CYMRU er mwyn cefnogi cysondeb ac effeithlonrwydd
- cymhwyso deallusrwydd artiffisial (AI) i’n gwaith, er enghraifft i wella ansawdd y cynnwys
- mireinio adnodd chwilio’r safle, gan ystyried technolegau newydd gan gynnwys AI
Rhannwch eich syniadau a’ch sylwadau, gan fanteisio ar y cyfle i ddarganfod mwy
Byddwn ni’n postio rhagor o fanylion am waith penodol, rhowch eich sylwadau ar y postiad neu anfonwch e-bost atom: digidol@llyw.cymru.