Postiad gan Indeg, Tîm Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg mewn technoleg, a byddwn ni’n defnyddio popeth mae technoleg yn ei gynnig i’n helpu ni i ddefnyddio’r Gymraeg.”
Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.
Ar 07 Ionawr 2025, cyhoeddodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu 3 blaenoriaeth newydd ar gyfer ein gwaith ym maes technoleg Cymraeg:
- technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
- sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
- gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)
Byddwn ni’n cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith ar dechnoleg Cymraeg ar y dudalen hon.

1. Technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg
Mae ein blaenoriaeth gyntaf yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg fel rhan o Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, yn enwedig mewn gweithleoedd. Byddwn ni’n cydweithio â phrifysgolion, systemau caffael, a chwmnïau bach a mawr i greu amgylchedd digidol lle mae’r Gymraeg yn hawdd i’w defnyddio. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwella Offer: Datblygu a diweddaru gwirwyr sillafu a gramadeg Cymraeg, a’u darparu ar fwy o blatfformau.
- Diogelwch ac Amddiffyn: Sicrhau bod defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg, gan gynnwys plant ac oedolion, yn cael eu hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol ar-lein.
- Gweld y Gymraeg: Gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wneud logo Iaith Gwaith yn fwy gweladwy ar-lein.
2. Sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
Ein hail flaenoriaeth yw gwneud technoleg Cymraeg yn hawdd i ddatblygwyr a defnyddwyr ei defnyddio. Mae hyn yn cynnwys:
- Cefnogi Addysg: Darparu adnoddau i rieni ac athrawon i gefnogi addysg Gymraeg plant trwy blatfformau fel Hwb.
- Rhannu Adnoddau: Ehangu rhestr offer ac adnoddau Helo Blod i helpu datblygwyr a defnyddwyr i wybod beth sydd ar gael, a sut i’w ddefnyddio.
- Mynediad Agored: Sicrhau bod technoleg Cymraeg yn cael ei rhannu’n agored lle bynnag y bo modd, gan gefnogi ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion penodol.
3. Gwella deallusrwydd artiffisial Cymraeg (AI), a thechnolegau lleferydd ac iaith
Ein trydedd flaenoriaeth yw gwella deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau lleferydd yn y Gymraeg. Dyma flas ar beth rŷn ni wedi gwneud hyd yn hyn, a byddwn ni’n:
- Datblygu AI: Parhau i gefnogi prosiectau AI fel AINA a phartneriaethau gydag OpenAI a Microsoft i wella sut mae AI yn prosesu’r Gymraeg.
- Technolegau Lleferydd: Datblygu technolegau sy’n deall y Gymraeg wrth iddi gael ei defnyddio bob dydd, gan gynnwys defnyddio bach o English in our Welsh, a vice versa.
- Cydweithio Rhyngwladol: Gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gefnogi cymunedau amlieithog ledled y byd.
Hoffech chi wybod mwy am beth rŷn ni’n gwneud? Dyma’r diweddaraf ar Dechnoleg i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Os hoffech chi ddysgu mwy fyth am dechnoleg Cymraeg, mae ein gwefan Helo Blod wastad yma i helpu.
Eisiau gwybod y newyddion diweddaraf am Cymraeg 2050? Gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr.