Postiad gan Jane, Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru
Mae MapDataCymru, y brif ffynhonnell ar gyfer data daearyddol yng Nghymru, yn cael uwchraddiad mawr i roi gwell profiad i ddefnyddwyr. Er ein bod yn uwchraddio, ni fyddwch yn sylwi ar unrhyw newid neu leihad yn y gwasanaeth a bydd gwybodaeth ac offer daearyddol MapDataCymru ar gael o hyd i’n holl ddefnyddwyr.
Pam uwchraddio?
Mae angen uwchraddio pob system i sicrhau eu bod yn manteisio ar welliannau. Mae hyn yn wir am ein gwasanaeth MapDataCymru. Bydd yr uwchraddio’n helpu i sicrhau bod MapDataCymru yn parhau i fod yn flaenllaw yn y maes cymwysiadau geo-ofodol.

Pa welliannau fyddwch chi’n eu gweld?
Mae’r uwchraddio’n sicrhau bod nifer o welliannau hanfodol ar gael i MapDataCymru. Bydd yn moderneiddio profiad defnyddwyr o ran llywio data, chwilio a delweddu gwell trwy:
- well opsiynau chwilio a hidlo, ar gyfer lleoli setiau data yn haws;
- offer rheoli data mwy soffistigedig sy’n caniatáu trefnu a chategoreiddio gwell ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;
- cefnogaeth ar gyfer fformatau data mwy daearyddol a gwell perfformiad gyda setiau data mawr neu gymhleth; a
- Gweithio’n well gyda’r catalog data a gwasanaethau data eraill.
Ac mae llawer o rai eraill na fyddwch yn eu gweld
O dan yr wyneb, bydd yr uwchraddiad hwn yn dod â gwelliannau mewn diogelwch, perfformiad a rhyngweithrededd (y ffordd y gall y gwasanaeth ryngweithio â systemau eraill). Er nad ydych efallai’n sylwi ar y newidiadau hyn, maent yn bwysig fel y bydd MapDataCymru yn offeryn mwy pwerus, diogel a hawdd ei ddefnyddio sy’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gysylltiedig â’r data a’r datblygiadau digidol diweddaraf.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd?
Mae’n rhaid inni fod yn ofalus wrth uwchraddio MapDataCymru i leihau’r effaith y bydd yn ei chael ar ein sylfaen defnyddwyr mawr. Mae’r gwaith uwchraddio eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Fel rhan o’r uwchraddio, byddwn yn gweithio trwy nifer o wahanol gamau, gan gynnwys profi a gwirio’r gwasanaeth newydd yn sylweddol cyn i ni fudo a mynd yn fyw. Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar y gwasanaeth pan fyddwn yn mudo a byddwn yn gwneud defnyddwyr yn ymwybodol o hyn trwy’r gwasanaeth, y cyfryngau cymdeithasol a’r rhestrau cyswllt presennol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uwchraddiad neu os hoffech gael mwy o fanylion, cysylltwch â thîm MapDataCymru drwy DMWSupport@llyw.cymru.