Gan Indeg, Tîm Cymraeg 2050
Pan gyhoeddon ni y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn 2018, ein bwriad oedd creu datblygiadau technolegol a fyddai’n galluogi ni i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bellach wedi cyhoeddi’r adroddiad terfynol ar y Cynllun hwn, sy’n edrych nôl ar y cynnydd ry’ ni wedi gwneud.
Roedd y Cynllun yn canolbwyntio ar dair prif thema:
- Technoleg lleferydd Cymraeg
- Cyfieithu â chymorth cyfrifiadur
- Deallusrwydd Artiffisial Sgwrsiol
Wrth adeiladu’r seilwaith ar gyfer technoleg Cymraeg yn y ffordd hyn, ry’ ni’n annog pobl i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg, sy’n helpu ni i gyrraedd ein nod Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Rydym hefyd yn cefnogi’r Strategaeth Ddigidol i Gymru drwy ddatblygu adnoddau digidol a thechnolegau bydd yn galluogi pobl i gael gwell gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.
Y datblygiadau diweddaraf
Un o uchafbwyntiau’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg oedd galluogi ChatGPT yn y sgwrsfot Macsen, a gafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Bangor gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu i Macsen gynhyrchu cynnwys gwreiddiol yn ogystal ag ymateb i dasgau syml yn Gymraeg.
Mae’r Brifysgol bellach yn gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae ChatGPT yn gweithio yn Gymraeg. Yn benodol, mae’n nhw’n gweithio ar atebion ‘ie/na’ yn Gymraeg, sy’n amrywio yn dibynnu ar y cwestiwn.
Mae technoleg yn newid drwy’r amser ac mae datblygiadau fel hyn yn helpu ni i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’u Cymraeg mewn ffyrdd newydd.

Defnyddio mwy o Gymraeg gyda thechnoleg
Rhan mawr o’r Cynllun oedd gwella profiad pobl wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Enghraifft o hyn oedd newid rhyngwyneb Microsoft Office365 i’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (78,086 defnyddiwr), a’i gwneud hi’n haws felly i ddysgwyr ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn addysg.
Mae newidiadau fel hyn yn lleihau ffrithiant yn y broses a’i gwneud yn fwy ‘EAST’ (hawdd, deniadol, cymdeithasol, amserol, yn Saesneg). Wrth ffocysu ar nodweddion ‘EAST’, ac felly ar anghenion y defnyddwyr, mae’r profiad o ddefnyddio’r Gymraeg ar dechnoleg yn dod yn haws ac yn fwy hygyrch.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Prifysgol Bangor wedi datblygu Lleisiwr, prosiect sy’n galluogi pobl i fancio eu llais yn Gymraeg. Mae bancio llais yn broses sy’n galluogi pobl i recordio brawddegau gyda’u llais eu hun fel bod modd iddynt barhau i gyfathrebu os ydynt yn colli’r gallu i siarad, oherwydd problemau iechyd er enghraifft. Mae Lleisiwr bellach ar gael drwy therapyddion lleferydd neu arbenigwyr meddygol ac mae’n helpu cleifion i barhau i siarad â’u ffrindiau a’u teuluoedd yn Gymraeg.
Bu Prifysgol Bangor hefyd yn gweithio gyda ni er mwyn creu peiriannau cyfieithu peirianyddol parth benodol, un ar gyfer iechyd a gofal, a’r llall ar gyfer deddfwriaeth. Wrth ffocysu ar barth benodol, mae canlyniadau yn dueddol o wella o gymharu â pheiriannau cyfieithu peirianyddol mwy cyffredinol. Mae hyn, yn ogystal â rhyddhau Cysgliad yn rhad ac am ddim i sefydliadau sydd â llai na deg aelod o staff, ac i’r holl drydydd sector ac addysg, wedi ei gwneud hi’n haws i bobl ysgrifennu yn Gymraeg. Mae’r pecyn meddalwedd yma yn cynnwys gwirwyr gramadeg a sillafu Cymraeg yn ogystal â geiriaduron (12,586 wedi lawrlwytho ar adeg cyhoeddi’r adroddiad).
Gweithio gyda’n gilydd
Fel rhan o’n partneriaeth ni â Microsoft, ry’ ni wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Microsoft Teams. Mae hwn ar gael heb gost ychwanegol i ddefnyddwyr Teams presennol. Mae gwaith yn parhau gyda Microsoft i ddatblygu’r cyfleuster hwn ymhellach gyda’r gobaith y bydd hyn yn arwain at greu adnoddau tebyg a newydd ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad ledled y byd, yn seiliedig ar ein gwaith yma yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn cynnwys mwy o enghreifftiau o sut ry’ ni wedi cydweithio â Chynghorau Ymchwil a Phrifysgolion hefyd, ac mae’n cydnabod y gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn hael. Diolch yn fawr i bawb a rannodd eu harbenigedd gyda ni yn ystod bywyd y Cynllun hwn.
Mae gan y Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg rôl sylweddol wrth annog creu, defnyddio a gwella technoleg Cymraeg. Dim ond rhai enghreifftiau yw hyn o’r cynnydd ry’ ni wedi cyflawni hyd yn hyn.
Hoffech chi wybod mwy am beth ry’ ni wedi gwneud? Dyma’r adroddiad llawn.
Os hoffech chi ddysgu mwy fyth am dechnoleg Cymraeg, mae ein gwefan Helo Blod wastad yma i helpu.
Eisiau gwybod y newyddion diweddaraf am Cymraeg 2050? Gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr.