Roedd cynllunio ar gyfer fy nyfodol yn edrych fel pe bai’n mynd i fod yn un o benderfyniadau mwyaf fy mywyd, ac felly mi geisiais ei osgoi. Wrth dynnu at ddiwedd fy nghyfnod Safon Uwch eleni, nid oeddwn i’n siŵr beth oedd fy hoff bwnc nac a oeddwn am fynd i’r brifysgol. Roeddwn i’n hollol ddi-glem. Er hynny, ar ôl siarad â phobl brofiadol cefais y cyfle gwych hwn, sy’n rhoi digonedd o ddewis i mi.
Astudiais Astudiaethau’r Cyfryngau, Celf a Thecstiliau fel pynciau Safon Uwch. Roeddwn wedi mwynhau pob un ohonynt oherwydd eu natur greadigol, ond roeddwn yn ansicr o’r cam nesaf i mi. Gwelais hysbyseb am y prentisiaeth Digidol Data a Thechnoleg ar cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn wedi bod yn ymchwilio swyddi digidol a prentisiaethau am oeddwn eisiau gweithio wrth ddysgu. Meddyliais fyddai’r prentisiaeth yn cam cyntaf arbennig i fewn i’r byd gwaith ac i agor cyfleoedd i mi yn y dyfodol.
Y byd gwaith
Gan nad oedd gen i unrhyw brofiad gwaith cyn hynny, roeddwn yn ansicr o’r hyn oedd o’m blaen o ran amgylchedd, cydweithwyr, a’r hyn yr oedd disgwyl i mi ei wybod a’i wneud. Nid oeddwn yn hyderus iawn wrth ymdrin â data yn ddigidol; er hynny, roedd gen i ddiddordeb yn y maes. Yn ystod y misoedd cyntaf, rwyf wedi dysgu cymaint ac wedi gweithio gyda chymaint o bobl wahanol, ac mae hynny wedi fy helpu i fagu hyder. Rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd i brofi gwahanol ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi, ar y cyd â’r gwaith prentisiaeth. Mae hyn i gyd wedi gwneud i mi deimlo’n llawer mwy annibynnol.
Fy lleoliad cyntaf
Dechreuais fy lleoliad cyntaf yn y tîm cymorth TGCh, lle cefais brofiad o weithio gyda thîm technegol iawn. Cefais weld beth sy ‘ n digwydd ‘y tu ôl i ddrysau caeedig’, a sut mae’r holl gymwysiadau’n gweithio. Cefais gyfarfod â llawer o bobl hyfryd a oedd yn gweithio yn y tîm, ac roedd pob un ohonyn nhw’n gefnogol. Yna, symudais i’m tîm presennol, sef ‘Seilwaith Digidol’, lle’r ydym yn gweithio ar brosiect o’r enw ‘Band Eang Cyflym Iawn’. Rwy’n mwynhau gweithio yn y lleoliad hwn yn fawr, ac rwyf wedi llwyddo i ddysgu cymaint o dechnegau newydd, gan gynnwys dadansoddi data o waith ymchwil cynradd ac eilaidd.
Rwy’n gweithio mewn tîm mawr, ac rwy’n teimlo bod hyn wedi fy helpu i feithrin sgiliau newydd o ran cydweithredu a chyfathrebu. Yn ogystal â chwrdd â phobl o’r lleoliadau hyn, rydym wedi dod yn dîm agos o brentisiaid digidol ac yn gweithio gyda’n gilydd i helpu a chefnogi ein gilydd. Rydym hefyd newydd ddechrau prosiect ar y cyd, a gan ein bod ni i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd gyda gwahanol sgiliau rydym i gyd yn gallu ymgymryd â rolau unigol (sy’n golygu bod pawb yn y tîm yn bwysig!).
Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle hwn ac am yr holl brofiadau rwyf wedi’u cael hyd yn hyn. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r brentisiaeth hon, a pharhau i ddatblygu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd.
Post gan Tia Mais, Prentis Digidol Data a Thechnoleg
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Prentisiaeth Llwybr Digidol, Data a Thechnoleg ac i wneud cais, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru