Cestyll ar flaen y gad!

Read this blog in English

Mewn blog diweddar, fe wnaethon ni roi gwybod i chi am ail-lansio ap Cadw. Erbyn hyn mae’n datgloi cynnwys cudd mewn safleoedd ledled Cymru. Roedd y ddau brosiect cyntaf yn defnyddio’r dechnoleg newydd hon i ymdrin â’n castell ‘gorau’ a’r un mwyaf ‘mawreddog’…

Y Castell Gorau na chafodd ei orffen erioed!

Llun o sut gallai'r castell fod wedi edrych petai wedi cael ei orffen

Un o’r llwybrau digidol cyntaf i ni ei lansio oedd un Castell Biwmares  – y castell gorau na chafodd ei orffen erioed. Mae Castell Biwmares yn Sir Fôn yn cynnig cipolwg o safle adeiladu o’r canol oesoedd. Er ei fod yn hynod o drawiadol heddiw, â’i furiau o fewn muriau a ffos ddŵr hardd o’i amgylch, ni chafodd y castell ei orffen erioed. Cynhaliwyd prosiect gwerth £170,000 yn 2015/16 ar thema ‘adeiladu’,  i wella’r profiad i ymwelwyr.

Ochr yn ochr ag eitemau rhyngweithiol a phaneli ymarferol, mae taith ddigidol o’r safle yn cyflwyno adeiladwyr y castell yn 1295 i’r ymwelwyr, sef gof, saer, y Pen-saer Maen James o St George a thelynor. Pam bod telynor yno, meddech chi? Wel, pan wnaeth y Brenin Edward I ymweld â’r safle’r haf hwnnw i weld sut roedd y gwaith yn mynd, roeddynt wedi dod ag Adam o Clitheroe yno i ganu’r delyn i’w ddiddanu. Falle eu bod nhw wedi gwneud hyn i geisio gwneud yn iawn am y ffaith fod y brenin wedi gorfod aros mewn “cwt dros dro â tho gwellt” – sef rhyw “Portakabin” canoloesol.

Mae lluniau i’w gweld yn ap Cadw o sut y gallai’r castell o’r 13eg Canrif fod wedi edrych o bosibl petai wedi cael ei orffen.

Bydd yn ddyfeisgar!

Mae gosodiadau ac arddangosfeydd newydd wedi cael eu rhoi yng Nghastell Rhaglan, y castell mwyaf mawreddog a adeiladwyd gan Gymro erioed, a chartref Harri Tudur (Harri’r VII) pan oedd e’n blentyn.

Delwedd ffon clyfar yn dangos ap Cadw

Fel rhan o’r dehongliad arloesol, mae ap Cadw’n defnyddio’r cyfarpar yn y safle fel rhan o’r Cyrch Castell digidol newydd. Cewch gyfarfod ag Edward y Dyfeisiwr, a gafodd ei fagu yng Nghastell Rhaglan. Dyfeisiodd dros 100 o wahanol declynnau. Ceisiwch ddyfalu pa un o’r wyth teclyn rydych yn eu gweld yn y castell y gwnaeth e’i ddyfeisio, drwy gyfarfod â phobl sy’n byw yn y castell a gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

Neu cewch ddewis y llwybr digidol ynghylch y Rhyfel Cartref, a darganfod olion o’r adeg y gwnaeth y castell wrthsefyll gwarchae gan filwyr y Senedd am bron i 13 wythnos. Mae trydydd llwybr digidol yn dangos y castell drwy’r oesoedd, sut y mae wedi newid dros y blynyddoedd a sut y mae wedi cael ei ddiogelu.

Dim ond y ddau safle cyntaf yng Nghymru inni guddio data digidol ynddynt yw Biwmares a Rhaglan. Rydyn ni wedi gosod y dechnoleg mewn amrywiaeth o safleoedd erbyn hyn. Lawrlwythwch ap Cadw a chlicio ar ‘Llwybrau Digidol’ i weld rhai o’r henebion eraill sydd wedi cael cynnwys digidol – a chofiwch barhau i edrych oherwydd mae rhagor i ddod cyn hir!

Post gan Erin Lloyd-Jones, Rheolwr Dehongli Treftadaeth, Cadw

Image credits courtesy of © Crown copyright (2017) Cadw, Welsh Government