LLYW.CYMRU newydd

Read this blog in English

Mae miliynau o bobl yn defnyddio’n safle corfforaethol ni bob blwyddyn, ac rydyn ni’n gwybod bod rhai rhannau o’r safle yn anoddach eu defnyddio nag eraill. Rhan o’r rheswm am hynny yw’r swm enfawr o wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gennym ni fel llywodraeth, ond rydyn ni’n gwybod bod lle i wella. 

Pan fyddwch chi’n cael trafferth â safle rhywle arall ar y we, gallwch fynd nôl i chwilio eto a dewis safle arall. Ond mewn llawer o achosion, LLYW.CYMRU yw’r unig le i gael yr wybodaeth angenrheidiol, felly mae’n rhaid i bobl ddod i ben gyda’r hyn rydyn ni’n ei roi iddyn nhw. Felly mae’n gwaith ni yn adeiladu LLYW.CYMRU newydd yn bwysicach fyth.

 

LLYW.CYMRU i chi

Un o’r prif faterion sydd angen sylw yw’r dybiaeth eang ymysg y cyhoedd nad yw’r wefan ar eu cyfer nhw. Mae nifer o resymau teg dros y farn yma, gan gynnwys strwythur yr wybodaeth a’r ffordd rydyn ni’n cyflwyno’r cynnwys. Mae hyn yn arwain nifer ohonoch chi i’r casgliad bod y wefan yn fwy ar gyfer y llywodraeth nac ar eich cyfer chi: ei fod yn ffordd o ddweud wrth y byd am ein gwaith.

Rhaid i ni wyrdroi’r sefyllfa yna er mwyn i chi ddeall o’r eiliad y byddwch chi’n cyrraedd LLYW.CYMRU bod y safle i chi, a bod eich anghenion chi yn bwysicach na’n rhai ni.

 

Ein gwaith hyd yma

Rydyn ni wedi rhoi holiadur byr ar safle presennol LLYW.CYMRU i ddeall yn well pwy ydych chi a pham eich bod yn defnyddio’r safle, yn ogystal â gofyn am eich barn. Dyma’n prif ganfyddiadau:

(i)     Dod o hyd i wybodaeth yw’r broblem fwyaf

Cymharol ychydig ohonoch chi sy’n gweld problem â dyluniad y safle neu ddeall yr wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi; y prif broblem yw dod o hyd i’r wybodaeth yn y lle cyntaf. Felly wrth i ni adeiladu’r LLYW.CYMRU newydd rydyn ni’n sicrhau bod y broses o symud o un lle i’r llall mor syml â phosib er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r cynnwys perthnasol.

(ii)    Mae gan sawl un ohonoch reswm personol dros fynd i LLYW.CYMRU

Roedd hynny’n syndod. Y farn gyffredinol yma yw bod pobl yn defnyddio’n safle wrth eu desgiau yn y gwaith, yn edrych ar ystadegau neu ymchwil, neu’n darllen datganiadau i’r wasg i gael dyfyniadau gan y Gweinidogion: safle sych i bobl sy’n gwneud pethau sych. Roedd yr holiadur yn dangos bod dros chwarter y bobl yn dod i’r safle am resymau personol. Mae hyn yn galonogol gan ei fod yn awgrymu ein bod yn gwneud y peth iawn i edrych eto ar y safle ar gyfer defnydd ehangach.

Rydyn ni hefyd wedi dechrau adeiladu’r safle LLYW.CYMRU newydd drwy ddatblygu gwasanaeth ymgynghoriadau beta. Rydyn ni wedi dewis dechrau gyda’r ymgynghoriadau gan fod hynny’n weddol rhwydd i roi sylw iddo ar wahân i weddill y safle.

 

Delwedd gwasanaeth ymgynghoriadau beta ar LLYW.CYMRU newydd

Gwasanaeth Ymgynghoriadau beta ar LLYW.CYMRU newydd

 

Rydyn ni hefyd wedi datblygu cyfres o dempledi ar gyfer ymgyrchoedd a hyrwyddo. Mynd am fand eang cyflym iawn yw’r ymgyrch gyntaf ar y safle newydd.

 

Delwedd o Ymgyrch Mynd am Fand Eang Cyflym Iawn ar LLYW.CYMRU

Ymgyrch Mynd am Fand Eang Cyflym Iawn ar LLYW.CYMRU newyd

 

Beth nesa

Rydyn ni’n ail-ysgrifennu ein cynnwys mwyaf poblogaidd, fel cyllid myfyrwyr a chynlluniau perchnogaeth tai. Byddwn yn cyhoeddi’r cynnwys hwn ar LLYW.CYMRU yn y gwanwyn. Hefyd rydyn ni’n meddwl sut gall y safle roi darlun cynhwysfawr o sefydliadau sector cyhoeddus ar draws Cymru a’n perthynas ni gyda nhw.

Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed eich barn chi am ein gwaith yn adeiladu’r LLYW.CYMRU newydd, felly rhowch eich sylwadau isod neu anfonwch e-bost.

Post gan Graham Craig, Tîm Corfforaethol Cyfathrebu Digidol, Llywodraeth Cymru

Un sylw ar “LLYW.CYMRU newydd

  1. Hysbysiad Cyfeirio: A new GOV.WALES | Digital and Data Blog

Sylwadau ar gau.